Amcan Môr Glas (gwelliannau traeth) yw sicrhau bod ansawdd traethau yn cael ei gynnal a'i wella er mwyn bodloni disgwyliadau cynyddol ymwelwyr.
Mae'r rhaglen Môr Glas yn cwmpasu'r arfordir o gwmpas ardaloedd cydgyfeirio Cymru. Bydd buddsoddiad cyfalaf yn creu seilwaith twristaidd a fydd yn ychwanegu gwerth y tu hwnt i fywyd y prosiect. Bydd y datblygiadau hyn yn cynorthwyo i wella profiad twristiaid a'u hannog i ddychwelyd. Nod y rhaglen yw annog rhagor o draethau i geisio cyrraedd safonau glanweithdra a chynaliadwyedd uwch. Buddsoddwyd mewn traethau Baner Las neu Arfordir Gwyrdd presennol neu posibl sy'n ceisio ennill y dyfarniad priodol.
Cyflwynir y rhaglen hon yn Ne a De Orllewin Cymru gan y prif noddwr, Cyngor Sir Penfro.